Ymateb Llywodraeth ar Reoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt a godwyd gan y Pwyllgor; fodd bynnag, rydym yn fodlon bod cynnwys y datganiad yn y rhaglith, er nad yw’n ofyniad, yn rhoi eglurder i’r darllenydd.
Pwynt Craffu Technegol 2:
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt a godwyd gan y Pwyllgor. Er ein bod o’r farn bod ystyr bwriadedig y ddarpariaeth yn dal i fod yn glir i’r darllenydd, er mwyn eglurder llwyr, byddwn yn sicrhau bod y rheoliadau hyn yn cael eu diwygio cyn eu gwneud fel y nodir yn y tabl isod i sicrhau bod cyfeiriadau perthnasol yn cael eu gwneud at “pwyntiau” yn hytrach na “paragraffau”. Rydym o’r farn bod diwygiadau o’r fath yn fân ac yn ansylweddol.
Pwynt Craffu Technegol 3:
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt a godwyd gan y Pwyllgor. Er ein bod o’r farn bod ystyr bwriadedig y ddarpariaeth yn dal i fod yn glir i’r darllenydd, er mwyn eglurder llwyr, byddwn yn sicrhau bod y rheoliad hwn yn cael ei ddiwygio cyn ei wneud fel y nodir yn y tabl isod i ddiweddaru’r geiriad o “ar ôl yr ail baragraff” i “ar y dechrau” i fynd i’r afael â hyn. Rydym o’r farn bod y diwygiad hwn yn fân ac yn ansylweddol.
Pwynt Craffu Technegol 4:
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt a godwyd gan y Pwyllgor. Bwriad y ddarpariaeth yw diwygio Erthygl 51 (h.y. yr Erthygl a enwir yn y drafft cyfredol), felly mae’r gwall mewn cysylltiad â’r pennawd yn unig a byddwn yn sicrhau bod y rheoliad yn cael ei ddiwygio cyn ei wneud fel y nodir yn y tabl isod i fynd i’r afael â hyn. Rydym o’r farn bod y diwygiad hwn yn fân ac yn ansylweddol.
Pwynt Craffu Technegol 5:
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt a godwyd gan y Pwyllgor; fodd bynnag, rydym yn fodlon bod bwriad geiriad cyfredol y rheoliadau hyn yn glir i’r darllenydd ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddiwygiadau mewn cysylltiad â hyn.
Cywiriadau drafftio technegol i’w gwneud cyn gwneud y Rheoliadau
|
CYWIRIADAU I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU |
CYWIRIADAU I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU |
|
Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026
|
The Closure of European Union Legacy Agriculture Schemes (Wales) Regulations 2026
|
|
Bydd rheoliadau 7(7), 9(8) a 10(20) yn cael eu diweddaru fel bod y cyfeiriadau at “paragraff” yn cael eu diwygio i “pwynt”.
|
Bydd rheoliadau 7(7), 9(8) a 10(20) yn cael eu diweddaru fel bod y cyfeiriadau at “paragraph” yn cael eu diwygio i “point”.
|
|
Bydd rheoliad 7(8) yn cael ei ddiwygio fel bod “ar ôl yr ail baragraff” yn cael ei ddiweddaru i “ar y dechrau”.
|
Bydd rheoliad 7(8) yn cael ei ddiwygio fel bod “after the second paragraph” yn cael ei ddiweddaru i “at the beginning”.
|
|
Bydd rheoliad 10(13) yn cael ei ddiwygio i newid pennawd Erthygl 51 o “(hysbysiad o gwblhau contractau)” i “(elfennau’r contract)”.
|
Bydd rheoliad 10(13) yn cael ei ddiwygio i newid pennawd Erthygl 51 o “(notification of conclusion of contracts)” i “(elements of the contract)”. |